Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn eu cymryd i wella cyflwr gwasanaethau gofal llygaid o ystyried yr oedi hir gyda chyflyrau sy'n bygwth golwg dros gyfnod o amser, ac anghysondebau rhwng byrddau iechyd?
Buddiant perthnasol wedi'i ddatgan
Rwy'n offthalmolegydd
Rydym yn cydnabod y pwysau y mae gwasanaethau’r GIG yn eu hwynebu, gan gynnwys ym maes gofal llygaid, ac rydym yn rhoi camau gweithredu ar waith i wella mynediad a gwella canlyniadau cleifion.
Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar leihau rhestrau aros, gwella’r llwybrau ar gyfer cyflyrau sy’n sensitif o ran amser, a chryfhau’r cydgysylltu ar draws gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys blaenoriaethu cleifion sydd â’r risg glinigol fwyaf a gwella cysondeb rhwng byrddau iechyd.
Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid y GIG i sicrhau mynediad amserol at ofal.