Pa gamau y mae'r Gweinidog Cabinet yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â methiannau gofal llygaid Cymru o dan y weinyddiaeth flaenorol, a amlygwyd gan ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd i offthalmoleg, er mwyn sicrhau ei fod yn flaenoriaeth frys ar gyfer camau gweithredu Perfformiad a Gwella'r GIG?
Buddiant perthnasol wedi'i ddatgan
Rwy'n offthalmolegydd ymgynghorol
Mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir am driniaeth gan y GIG, ac mae gwella amseroedd aros yn flaenoriaeth.
Rydyn ni’n rhoi camau gweithredu ar waith i gryfhau’r gwaith cyflawni a gwella atebolrwydd ar draws GIG Cymru, gan gynnwys ym maes offthalmoleg. Mae hyn yn cynnwys lleihau amseroedd aros, gwella gofal dilynol, cryfhau capasiti’r gweithlu, a mynd i’r afael â’r amrywiadau rhwng byrddau iechyd.
Mae offthalmoleg yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn nhrefniadau perfformiad y GIG, a byddwn yn parhau i weithio gyda GIG Cymru i gyflawni gwelliannau parhaus.