Pa gamau y bydd y Gweinidog Cabinat yn eu cymryd i gefnogi prifysgolion yn dilyn adroddiadau'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) bod tair o brifysgolion Cymru, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, yn rhan o'r deg uchaf o brifysgol ym Mhrydain sydd â'r diffygion uchaf fel canran o incwm?
Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gynnal adolygiad eang o gyllid addysg uwch o fewn ei chan diwrnod cyntaf, gyda’r nod o sicrhau bod y system yn gynaliadwy yn ariannol, a bod lefel uwch o werth cyffredinol ein buddsoddi cyhoeddus yn dod â budd i Gymru. Rydym yn bwriadu comisiynu adolygiad trawsbleidiol a chynhwysfawr o sut y mae prifysgolion yng Nghymru yn cael eu hariannu, i sicrhau cynaliadwyedd ariannol hirdymor y sector; bod lefel uwch o’r cyllid a fuddsoddir gan Lywodraeth Cymru mewn addysg uwch yn aros yng Nghymru; a bod mwy o fyfyrwyr Cymru yn cael eu cefnogi i astudio yng Nghymru.
Mae prifysgolion yng Nghymru yn annibynnol, ac mae dyletswydd statudol ar Medr i fonitro eu cynaliadwyedd ariannol. Mae hyn yn cynnwys gofalu bod gan ddarparwyr gynlluniau credadwy ar waith i sicrhau eu hyfywedd ariannol yn y tymor byr a’u cynaliadwyedd ariannol yn y tymor hirach. O 1 Awst 2026, bydd Medr yn cyflwyno fframwaith rheoleiddio newydd, gan gefnogi fframweithiau llywodraethiant a rheoli sefydliadau addysg uwch Cymru, a’u cynlluniau o safbwynt cynaliadwyedd ariannol. Mae fy swyddogion a Medr yn cyfarfod yn rheolaidd i fonitro iechyd y sector.