A wnaiff y Gweinidog Cabinet ystyried ail-archwilio dichonoldeb prosiect Morlyn Llanw Abertawe fel modd o ddefnyddio'r amrediad llanw ail uchaf yn y byd i gynhyrchu ynni gwyrdd glân?
Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni | Wedi'i ateb ar 10/06/2026
Bydd angen i Lywodraeth Cymru ystyried ymchwil diweddar Her Môr-lynnoedd Llanw wrth i ni geisio dymchwel y rhwystrau i fwrw ymlaen â phrosiectau amrediad llanw yng Nghymru.
Un cyfyngiad sylweddol ar gyfer môr-lynnoedd llanw yw nad oes mecanwaith cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU. Byddaf yn cwrdd â gweinidogion Llywodraeth y DU yn ceisio eglurhad ynghylch a fydd Llywodraeth y DU yn ymrwymo i fecanwaith ariannol i gefnogi cyflenwi technoleg amrediad llanw.