Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y gostyngiad yn y llefydd hyfforddiant bydwreigiaeth a gomisiynnir, o 224 i 144, a wnaed gan y llywodraeth flaenorol?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried effaith newidiadau ar leoedd hyfforddi bydwreigiaeth a gomisiynir, a hynny yn rhan o’i dull gweithredu ehangach ar gyfer cynllunio’r gweithlu a chomisiynu’r ddarpariaeth addysg.
Caiff lefelau comisiynu eu llywio gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), gan ystyried y galw am weithlu, capasiti gwasanaethau, prosesau recriwtio myfyrwyr a fforddiadwyedd, a chydbwyso pwysau ariannol uniongyrchol â’r angen am gynllun hirdymor a chynaliadwy ar gyfer y gweithlu.
Mae’r penderfyniadau hyn hefyd yn adlewyrchu’r cyd-destun gweithredol o fewn GIG Cymru. Mae tystiolaeth ddiweddar yn dangos anghysondeb mewn rhai meysydd rhwng nifer y graddedigion a nifer y swyddi a ariennir sydd ar gael, wedi’u dylanwadu gan fesurau adfer ariannol, gwell prosesau o ran cadw staff a llai o drosiant swyddi gwag.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pryderon am raddfa ac amseriad y gostyngiadau hyn, gan gynnwys effeithiau posibl ar gyflenwad y gweithlu a phwysau ar wasanaethau yn y dyfodol. Mae’r rhain yn llywio gweithgarwch ymgysylltu parhaus ag AaGIC, sefydliadau’r GIG a chyrff proffesiynol.
Mae’r sefyllfa gomisiynu ar gyfer 2026-27 yn cefnogi cyfnod sefydlogi blwyddyn o hyd. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Llywodraeth Cymru ac AaGIC yn cynnal gwaith modelu senarios manwl ac yn datblygu model wedi'i gryfhau o ran cynllunio a chomisiynu’r gweithlu ar gyfer y blynyddoedd i ddod.