Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r broblem sy'n wynebu hyfforddeion parafeddygol, yng ngoleuni'r 67 o barafeddygon sydd newydd gymhwyso ac wedi cael gwybod na fydd staff cymwys yn cael eu recriwtio yn 2026 oherwydd cyfyngiadau ariannol?
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, prifysgolion a rhanddeiliaid ehangach i helpu parafeddygon newydd gymhwyso, a gwella’r cysondeb rhwng hyfforddiant a chyfleoedd gwaith. Nid yw’r heriau sy’n wynebu parafeddygon newydd gymhwyso yn unigryw i Gymru; mae nifer y swyddi sydd ar gael yn gyfyngedig ar lefel genedlaethol. Er mai Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy’n gyfrifol am brosesau recriwtio, rydym yn cynnal trafodaethau rheolaidd â'r Ymddiriedolaeth er mwyn deall gofynion ei gweithlu a’i gallu o ran recriwtio.
Mae’r sefyllfa bresennol yn adlewyrchu anghysondeb dros dro rhwng nifer y graddedigion a nifer y swyddi gwag wedi’u hariannu sydd ar gael; anghysondeb sydd wedi deillio o gyfyngiadau ariannol ac ailgynllunio gwasanaethau o fewn gwasanaethau ambiwlans. Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 82 o raddedigion ar hyn o bryd ond nid oes swyddi parafeddygon newydd gymhwyso ar gael. Fodd bynnag, o’r rhain, mae 62 o barafeddygon newydd gymhwyso wedi llwyddo i sicrhau swyddi technegwyr meddygol brys. Mae 42 o’r rhain wedi’u neilltuo i gyrsiau hyfforddi ym mis Medi a mis Hydref ac mae 20 arall ar restr wrth gefn i naill ai gymryd lle rhywun sy’n tynnu’n ôl neu i gael lle ar gwrs yn gynnar yn 2027. Mae’r mwyafrif o’r myfyrwyr felly wedi sicrhau rôl yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru er nad mewn rôl parafeddyg. Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws y GIG, y sector addysg a chyrff proffesiynol i nodi datrysiadau posibl eraill. Ym mis Mehefin, byddwn yn cynnal uwchgynhadledd rhanddeiliaid i ystyried camau gweithredu ar unwaith i helpu graddedigion nad ydynt wedi sicrhau swydd hyd yma ac i nodi mesurau tymor hwy i leihau’r risg o’r sefyllfa hon yn digwydd eto.