Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r effaith ar gymunedau a busnesau, yn sgil cau canghennau Swyddfa'r Post sydd wedi'u lleoli o fewn siopau TG Jones, gan gynnwys y Swyddfa Bost Ganolog yn Abertawe?
Mae gwasanaethau post a swyddfeydd post yn faterion a gedwir yn ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Fe wnaeth Llywodraeth y DU amlinellu ei hamcanion ar gyfer Dyfodol Swyddfa’r Post ym mis Chwefror 2026. Mae’r amcanion hyn yn cynnwys cadw’r rhwydwaith y maint presennol a hefyd cadw gwasanaethau yn nghanol trefi lle bo hynny’n bosibl.
Rwy’n ymwybodol bod nifer o ganghennau TG Jones ar draws Cymru yn cau ac y bydd hyn yn cael effaith ar wasanaethau Swyddfa’r Post yn y cymunedau sydd wedi’u heffeithio. Mae Swyddfa’r Post Cyfyngedig wedi cadarnhau ei bod yn gweithio i ddod o hyd i fusnesau lletya newydd gerllaw i sicrhau parhad gwasanaethau Swyddfa’r Post.
Wrth gwrs, mae’n peri pryder i mi pan fydd newidiadau’n effeithio ar bobl a chymunedau yng Nghymru. Fel yr ydym wedi’i nodi yn ein maniffesto, rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau bach ac adfywio ein strydoedd mawr.