WQ98438 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2026

Pa drafodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael a Llywodraeth y DU i sicrhau bod modd i deuluoedd i gael tystysgrif marwolaeth yn y Gymraeg yn dilyn cwest?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 31/03/2026

Mae cofrestru sifil yn fater a gedwir yn ôl. Serch hynny, mae pobl sy’n hysbysu’r cofrestrydd o farwolaeth yng Nghymru yn cael cynnig apwyntiad dwyieithog, a gallant gofrestru yn Gymraeg. Mae tystysgrifau marwolaeth dwyieithog yn cael eu darparu gan y swyddfa gofrestru lle mae marwolaeth wedi ei chofrestru’n ddwyieithog yng Nghymru.

O ran tystysgrifau marwolaeth safonol, mae’r farwolaeth yn cael ei chofrestru cyn yr angladd. Serch hynny, os bydd angen cynnal cwest, gallai hynny achosi oedi yn y broses gofrestru. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rhaid i’r teulu ddibynnu ar ganiatâd ffurfiol gan y crwner i ganiatáu i’r claddu neu’r amlosgi fynd yn ei flaen. Fodd bynnag mae’r broses gofrestru ei hunan yn parhau’r un fath, a bydd tystysgrif marwolaeth ddwyieithog yn cael ei darparu gan y swyddfa gofrestru pan fydd marwolaeth yn cael ei chofrestru’n ddwyieithog yng Nghymru.