WQ98369 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet sicrhau a chyhoeddi diweddariad am broblemau carthffosiaeth yn Llyn Padarn, Llanberis, Arfon?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 31/03/2026

Rydym yn anelu at wella perfformiad dŵr gwastraff, atgyfnerthu gwaith diogelu'r amgylchedd a gwella hyder y cyhoedd mewn ansawdd dŵr ledled Cymru, ac felly credwn fod y sefyllfa yn Llyn Padarn yn fater difrifol. Mae swyddogion eisoes yn ymgysylltu â Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Lleol Gwynedd i ddeall achosion y problemau carthffosiaeth diweddar a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â nhw. Rwy'n disgwyl derbyn y newyddion diweddaraf am y sefyllfa hon cyn bo hir, a byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau a'r cyhoedd yn cael eu hysbysu cyn gynted ag y bydd gwybodaeth newydd ar gael.