WQ98365 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/03/2026

Faint o gyllid canlyniadol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael o ganlyniad i strategaeth newydd Llywodraeth y DU ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod a Merched, ac a yw'r cyllid hwnnw wedi ei glustnodi ar gyfer mesurau i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru ac, os felly, beth yw manylion y gwariant?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 27/03/2026

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw gyllid canlyniadol Barnett adnabyddadwy yn sgil strategaeth newydd Llywodraeth y DU, Rhyddid rhag Trais a Chamdriniaeth.