Ymhellach i WQ98204 a WQ98203, a fydd yr ymarfer mapio cenedlaethol sydd ar ddod yn cynnwys dadansoddiad rhanbarthol o lwythi achosion, argaeledd gwasanaethau a darpariaeth Gymraeg, ac a fydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi i ddarparu tryloywder a chefnogi cynllunio mewn ardaloedd sy'n cael eu tan-wasanaethu fel gogledd-orllewin Cymru?
Cyfeiriaf at fy ateb blaenorol i WQ98216. Nid oes gan Lywodraeth Cymru ddata cynhwysfawr ar hyn o bryd am Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig i Blant (CHIDVAs).
Rydym wrthi’n mapio rolau’r holl Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig ledled Cymru, gan gynnwys rolau Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig i Blant i’n helpu i ddeall sut mae anghenion goroeswyr a dioddefwyr yn cael eu diwallu ledled Cymru. Mae hynny’n gyson ag amcan ein strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26 i sicrhau bod yr un gwasanaethau rhyng-adrannol ac ymatebol o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar angen ac ar ein cryfderau ac sydd â’r lefel briodol o adnoddau ar gael i bob dioddefwr ledled Cymru. Bydd y gwaith hwn yn ystyried sut y gellid darparu’r gwasanaethau hyn trwy’r Gymraeg ac ieithoedd eraill a bod y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu ar draws holl gymunedau Cymru.
Mae’r gwaith mapio’n mynd rhagddo ac felly nid oes adroddiad terfynol wedi’i lunio eto. Bydd ei ganfyddiadau’n ein helpu i barhau i ddatblygu polisi ar draws Llywodraeth Cymru. Bydd yn gwella’r wybodaeth y bydd gan Lywodraeth Cymru yn ei meddiant y gallai ei rhannu â chyrff cyhoeddus perthnasol datganoledig ac sydd heb eu datganoli yng Nghymru, hynny er mwyn osgoi dyblygu gwaith a lleihau’r bylchau yn y ddarpariaeth.
Mae byrddau iechyd lleol, yr heddlu a mudiadau’r trydydd sector yn parhau i weithio ar y cyd i sicrhau mynediad prydlon at wasanaethau trawma trwy Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Amethyst yng Ngogledd Cymru.