WQ98339 (w) Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2026

Ymhellach i WQ98208, WQ98216 a WQ98204, pa asesiad sydd gan Lywodraeth Cymru o’r gwahaniaethau rhanbarthol mewn gwasanaethau Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig i Blant (CHIDVA) a VAWDAS arbenigol rhwng gogledd Cymru - yn enwedig Arfon a Dwyfor Meirionnydd - a de Cymru, a pha gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau mynediad cyfartal i blant?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 24/03/2026

Cyfeiriaf at fy ateb blaenorol i WQ98216. Nid oes gan Lywodraeth Cymru ddata cynhwysfawr ar hyn o bryd am Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig i Blant (CHIDVAs).

Rydym wrthi’n mapio rolau’r holl Gynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol a Chynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig ledled Cymru, gan gynnwys rolau Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig i Blant i’n helpu i ddeall sut mae anghenion goroeswyr a dioddefwyr yn cael eu diwallu ledled Cymru. Mae hynny’n gyson ag amcan ein strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26 i sicrhau bod yr un gwasanaethau rhyng-adrannol ac ymatebol o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar angen ac ar ein cryfderau ac sydd â’r lefel briodol o adnoddau ar gael i bob dioddefwr ledled Cymru. Bydd y gwaith hwn yn ystyried sut y gellid darparu’r gwasanaethau hyn trwy’r Gymraeg ac ieithoedd eraill a bod y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu ar draws holl gymunedau Cymru.

Mae’r gwaith mapio’n mynd rhagddo ac felly nid oes adroddiad terfynol wedi’i lunio eto. Bydd ei ganfyddiadau’n ein helpu i barhau i ddatblygu polisi ar draws Llywodraeth Cymru. Bydd yn gwella’r wybodaeth y bydd gan Lywodraeth Cymru yn ei meddiant y gallai ei rhannu â chyrff cyhoeddus perthnasol datganoledig ac sydd heb eu datganoli yng Nghymru, hynny er mwyn osgoi dyblygu gwaith a lleihau’r bylchau yn y ddarpariaeth.

Mae byrddau iechyd lleol, yr heddlu a mudiadau’r trydydd sector yn parhau i weithio ar y cyd i sicrhau mynediad prydlon at wasanaethau trawma trwy Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Amethyst yng Ngogledd Cymru.