Pa gynlluniau sydd ar waith i fonitro a gwerthuso hygyrchedd Seren Lodge yn Ysbyty Iarlles Caer i fenywod o Gymru, gan gynnwys nodi unrhyw anghenion i gynyddu capasiti’r ddau wely pwrpasol ar gyfer menywod o Gymru a’r gwasanaethau Cymraeg sy’n cael eu cynnig?
Mae’r Cyd-bwyllgor Comisiynu yn darparu goruchwyliaeth, llywodraethiant a sicrwydd strategol ynghylch lleoliadau yn Seren Lodge. Mae hyn yn cynnwys monitro’r galw/capasiti a sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.
Bydd canfyddiadau Adroddiad Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru a Choleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru ar Ddefnydd, Rhagfynegi a Modelu yn llywio cynllun cyfalaf yr ystadau fel rhan o’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant a’r cynllun cyflawni.