Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau tystysgrifau marwolaeth dwyieithog?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 19/03/2026
Mae cofrestru sifil yn fater a gedwir yn ôl. Fodd bynnag, bydd pobl sy’n hysbysu cofrestrydd am farwolaeth yng Nghymru yn cael cynnig apwyntiad dwyieithog ac fe gânt gofrestru’r farwolaeth yn Gymraeg. Bydd tystysgrifau marwolaeth dwyieithog yn cael eu rhoi gan y swyddfa gofrestru lle cofrestrwyd marwolaeth yn ddwyieithog yng Nghymru.