WQ98318 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/03/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gyflawniad yr ymrwymiadau a wnaeth yr Aelod yng ngofal y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) parthed cyfrifoldebau'r Comisiwn Etholiadol yn ystod trafodion Cyfnod 3 y Bil, fel y gwelir ym mharagraff 468 Cofnod y Cyfarfod Llawn ar 4 Gorffennaf 2024?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 19/03/2026

Rwyf wedi dod i’r casgliad bod yr Aelod yn gofyn am 2 Gorffennaf 2024, yn hytrach na 4 Gorffennaf fel y nodir yn y cwestiwn. Yn ystod y ddadl honno, siaradodd Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol ar y pryd, am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl yn gallu cyfranogi’n llawn yn ein democratiaeth gan ddefnyddio dwy iaith swyddogol ein gwlad.

Ers mis Gorffennaf 2024, mae gwaith wedi parhau i gefnogi cyflawni etholiadau Cymru yn ddwyieithog, ar lefel y Senedd ac ar lefel llywodraeth leol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau’r gofynion o ran y Gymraeg drwy wneud, am y tro cyntaf, set gwbl ddwyieithog o reolau ar gyfer etholiad y Senedd (Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025).

Roedd y diwygiadau diweddar i reolau etholiadau lleol (Rheolau Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2026) yn cynnwys bod yn gwbl eglur ynglŷn â’r angen am ddatgan canlyniadau yn ddwyieithog a ffurflenni templed dwyieithog gwell.

Rydym yn hybu’r defnydd o’r Gymraeg mewn etholiadau drwy weithio’n agos gyda’r Bwrdd Rheoli Etholiadol a’r Comisiwn Etholiadol, sy’n monitro perfformiad Swyddogion Canlyniadau drwy Safonau Perfformiad, gan gynnwys gofynion o ran y Gymraeg. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae’r ymdrech ar y cyd hon wedi cynnwys cefnogi cysondeb wrth ddatgan canlyniadau yn ddwyieithog, gweithdai i Swyddogion Canlyniadau yn y Gogledd a’r De gan gynnwys sesiynau Cymraeg, geirfa wedi’i diweddaru o derminoleg etholiadol, a chefnogaeth ymarferol i sicrhau rhagor o amlygrwydd i staff sy’n siarad Cymraeg mewn gorsafoedd pleidleisio.