Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i rhoi i fabwysiadu mesurau tebyg i’r hyn a elwir yn “Benedict’s Law” yn Lloegr er mwyn sicrhau trefniadau statudol a chyson i ddiogelu disgyblion ag alergeddau mewn ysgolion?
Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i gryfhau’r canllawiau presennol ar gefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd. Bydd hyn yn cefnogi cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd a gwasanaethau addysg.
Mae pob ysgol yng Nghymru ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i’r canllawiau statudol – Cefnogi dysgwyr ag anghenion gofal iechyd. Maent yn helpu i gefnogi awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir i gyflawni eu dyletswydd mewn perthynas â lles y disgybl o dan adran 175 o Ddeddf Addysg 2002. Maent hefyd yn darparu gwybodaeth mewn perthynas â rheoli a gweinyddu meddyginiaethau yn ddiogel ac yn amlygu’r angen i ystyried anghenion deietegol pan fo bwyd yn cael ei ddarparu gan ysgol neu drwyddi, gan gynnwys ar gyfer dysgwyr â chyflyrau meddygol fel alergeddau.
Mae canllawiau atodol hefyd yn darparu cyngor a gwybodaeth ychwanegol i athrawon, rheolwyr, ymarferwyr a’r holl staff sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg ar ddefnyddio chwistrellwyr adrenalin awtomatig brys.
Bydd y gwelliant diweddar a wnaed i’r Bil Lles Plant ac Ysgolion yn Lloegr i gyflwyno Cyfraith Benedict yn cael ei ystyried, a byddwn yn dilyn canlyniad ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ei chanllawiau statudol newydd.