WQ98238 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2026

Yn dilyn y cyhoeddiad blaenorol gan Lywodraeth y DU o £5 biliwn mewn perthynas â chefnogi gwariant anghenion addysgol arbennig awdurdodau lleol yn Lloegr, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a oes unrhyw gyllid canlyniadol i Gymru yn deillio o’r penderfyniad hwnnw; ac os felly, faint?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 27/02/2026

Bydd manylion am unrhyw gyllid canlyniadol yn cael eu darparu yn Rhagolwg y Gwanwyn a bydd yn fater i Weinidogion Cymru benderfynu sut i wario unrhyw gyllid canlyniadol a dderbyniwyd.