WQ98237 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a fydd cyllid canlyniadol yn dod i Gymru yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU o £4 biliwn o wariant ychwanegol ar anghenion addysgol arbennig yn Lloegr, ac os felly, faint?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 27/02/2026

Bydd manylion am unrhyw gyllid canlyniadol yn cael eu darparu yn Rhagolwg y Gwanwyn a bydd yn fater i Weinidogion Cymru benderfynu sut i wario unrhyw gyllid canlyniadol a dderbyniwyd.