Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ac iechyd meddwl plant yn cael eu cynllunio’n integredig, yn hytrach na gweithio mewn silos?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a chefnogaeth iechyd meddwl i blant yn cael eu cynllunio a’u darparu mewn ffordd gydgysylltiedig a chydlynol. Mae’r system ADY yn annog adolygu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) dysgwr wrth baratoi, adolygu neu ddiwygio dogfen arall ar gyfer y plentyn neu berson ifanc, neu pan fydd corff arall yn gwneud hynny. I helpu i gydlynu’r ddarpariaeth a chefnogi dull gweithredu integredig, caiff cyrff cyfrifol hefyd gynnwys dogfennau eraill yn y CDU.
Ochr yn ochr â hyn, rydym yn parhau i hyrwyddo’r Fframwaith Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol, y mae rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol ei ystyried wrth ddatblygu cynlluniau a pholisïau llesiant. Mae ei hyblygrwydd yn galluogi lleoliadau i addasu’r gefnogaeth ar gyfer cymunedau’r ysgol, gan gynnwys dysgwyr ag ADY a dysgwyr o grwpiau agored i niwed neu grwpiau sydd wedi eu hymylu. Yn ehangach, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddull system gyfan lle mae addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio’n agos i sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer plant ag ADY a’u hiechyd meddwl yn cael ei darparu mewn ffordd gydlynol.