WQ98233 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan ysgolion ac awdurdodau lleol y capasiti arbenigol angenrheidiol, megis seicolegwyr addysg ac arbenigwyr niwroddatblygiadol, i weithredu’r system anghenion dysgu ychwanegol yn effeithiol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 04/03/2026

Bydd y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg mewn Ysgolion sydd ar fin cael ei gyhoeddi yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd gydag awdurdodau lleol i sicrhau gweithlu arbenigol digonol a medrus i gefnogi ein dysgwyr. Bydd hyn yn cynnwys datblygu modelau cynllunio'r gweithlu ar gyfer y gweithlu addysg arbenigol a gyflogir gan awdurdodau lleol.   

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu hyfforddiant seicolegwyr addysg yng Nghymru i sicrhau cyflenwad cyson er mwyn helpu i gynllunio'r gweithlu. 

Gofyniad craidd ar gyfer pob rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon yw sicrhau bod pob athro dan hyfforddiant yn ymwybodol o ddysgwyr ag ADY ac yn barod i'w haddysgu a'u cefnogi. Mae'r Cod a'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol yn sefydlu'r system statudol yng Nghymru ar gyfer diwallu anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc. Nod y broses o ddiwygio'r system ADY yw sicrhau y caiff anghenion dysgu ychwanegol plant a phobl ifanc eu nodi'n gynnar ac yr eir i'r afael â nhw'n gyflym er mwyn iddynt gyflawni eu llawn botensial.

Dylai athrawon dan hyfforddiant ddeall egwyddorion ymarfer sy'n canolbwyntio ar y person, y Cod a'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, ei ddiben a'i ethos a'r cyfrifoldeb o addysgu ymarferwyr ac ysgolion gan gynnwys rôl y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY).

Rydym yn dechrau gweithio ar fersiwn nesaf y Meini Prawf ar gyfer Achredu rhaglenni AGA, a byddwn yn cryfhau'r gofynion ynghylch ADY, niwroamrywiaeth, datblygiad plant a chynhwysiant ymhellach fel rhan o'r broses hon.

Rydym hefyd yn cynnig SAC TAR gydag arbenigedd ADY penodol mewn niwroamrywiaeth, ac mae hyn yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan Bartneriaeth AGA Bangor. Rydym yn cynnal gwerthusiad o'r llwybr hwn, a bydd y canfyddiadau yn cael eu defnyddio wrth ystyried dichonoldeb cyflwyno hyn ar draws partneriaethau eraill.

Rydym yn gweithio gyda Dysgu i sicrhau cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol o ansawdd uchel ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae Dysgu yn datblygu, cyflwyno a sicrhau ansawdd rhaglen dysgu proffesiynol genedlaethol ar ADY ar gyfer staff awdurdodau lleol, arweinwyr, CADY, staff arbenigol a'r holl staff addysgu er mwyn gallu darparu'r system ADY ac addysg gynhwysol.