Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn sicrhau bod egwyddorion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn cael eu gweithredu’n gyson ar draws Cymru?
Mae rhaglen helaeth o ymchwil a thystiolaeth yn ei lle i fonitro gweithrediad y system ADY. Mae hyn yn cynnwys gwerthusiad ffurfiannol pedair blynedd, cyfres o adolygiadau thematig gan Estyn o weithrediad y system ADY, ynghyd â gwerthuso’r Cwricwlwm i Gymru. Rydym hefyd wedi adolygu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ADY ac wedi ymgynghori ar reoliadau a’u diwygio fel y gallwn gasglu data newydd ar ADY drwy ein gwaith casglu data statudol.
Ar sail y canfyddiadau o’r adolygiad a’r gwerthusiad a gynhaliwyd hyd yma, cyhoeddais ym mis Hydref gamau gweithredu â’r nod o gryfhau eglurder, cysondeb a phrosesau cyflawni y system ADY.