WQ98231 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2026

Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i asesu a yw’r system anghenion dysgu ychwanegol yn cyflawni ei haddewid o fod yn ganolog i’r dysgwr ac yn gwella canlyniadau llesiant a dysgu?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 03/03/2026

Mae rhaglen helaeth o ymchwil a thystiolaeth yn ei lle i fonitro gweithrediad y system ADY. Mae hyn yn cynnwys gwerthusiad ffurfiannol pedair blynedd, cyfres o adolygiadau thematig gan Estyn o weithrediad y system ADY, ynghyd â gwerthuso’r Cwricwlwm i Gymru. Rydym hefyd wedi adolygu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer ADY ac wedi ymgynghori ar reoliadau a’u diwygio fel y gallwn gasglu data newydd ar ADY drwy ein gwaith casglu data statudol.

Ar sail y canfyddiadau o’r adolygiad a’r gwerthusiad a gynhaliwyd hyd yma, cyhoeddais ym mis Hydref gamau gweithredu â’r nod o gryfhau eglurder, cysondeb a phrosesau cyflawni y system ADY.