Pryd fydd y Llywodraeth yn darparu data cynhwysfawr i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, mewn ymateb i argymhelliad 11 o adroddiad y Pwyllgor ar benodiadau cyhoeddus ym mis Mawrth 2025?
Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 24/02/2026
Mewn ymateb dyddiedig 9 Mehefin 2025, rhannodd y Llywodraeth fanylion ffynonellau data perthnasol a nododd gyfyngiadau’r system wrth gynhyrchu un set gyfunol. Fel y nodir yn yr ymateb hwnnw, rydym yn parhau i gryfhau cyflawnrwydd a thryloywder ein data o un flwyddyn i’r llall, a byddwn yn diweddaru’r Pwyllgor wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.