WQ98156 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/02/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu diweddariad ynghylch cynnwys data ar achosion lleithder a difrod yn yr arolwg rheoleiddio landlordiaid cymdeithasol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 16/02/2026

Mae’r arolwg rheoleiddio chwarterol, a roddir i bob landlord cymdeithasol, yn cynnwys data am bob achos agored o lwydni a lleithder, Trwsio Argyfwng a gwblheir yn brydlon, Trwsio Arferol sydd heb ei wneud ym mhob eiddo, ac achosion o Gyflwr Gwael agored. Mae gofyn i landlordiaid nodi nifer y tai yr effeithir arnynt a chanran eu stoc tai y mae hyn yn ei gynrychioli.

O 1 Ebrill 2026, i gyd-fynd â chyflwyno rheol yn WHQS ynghylch ymchwilio i beryglon a’u hunioni, caiff yr arolwg chwarterol ei newid er mwyn gofyn i bob landlord cymdeithasol gofnodi pob perygl, gan gynnwys lleithder a llwydni, ac a ydyn nhw wedi cael eu hasesu a’u hunioni.

Mae’r Tîm Rheoleiddio’n monitro’r wybodaeth hon yn ofalus er mwyn gweld a oes tueddiadau ac i asesu a yw’r achosion yn cynyddu neu’n gostwng dros amser. Cyhoeddir y wybodaeth bob chwarter.