Pa asesiad sydd wedi’i wneud o’r effaith ar denantiaid preifat yng Nghymru o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i ostwng y terfyn costau i landlordiaid ac i gyflwyno eithriadau ar sail gwerth isel eiddo fel rhan o’r cynlluniau i godi’r safonau isafswm effeithlonrwydd ynni yn y sector rhentu preifat?
Rydym yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i greu cartrefi iachach o ansawdd gwell i denantiaid preifat. Dangosodd ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y newidiadau fod gostwng y terfyn costau i landlordiaid ac ehangu eithriadau gwerth isel yn peryglu lleihau uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni, a gallai adael rhai tenantiaid mewn cartrefi oerach, llai effeithlon. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y risg bod gwerthoedd rhent presennol yn gymharol gymedrol ac, o ganlyniad, nid oes llawer o gyfle i dalu costau ychwanegol o renti presennol.
Gyda thua 110,000 o eiddo rhent preifat yn is na EPC C yng Nghymru, mae hwn yn fater sylweddol. Rydym yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU yn adeiladol i sicrhau'r canlyniad gorau i Gymru. Mae ein cynllun Nyth Cartrefi Clyd ar gael i rentwyr preifat incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith.