WQ98154 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/02/2026

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ran cyflwyno a gweithredu deddf Awaab?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 20/02/2026

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau sylweddol i sicrhau bod tenantiaid yn cael eu diogelu rhag peryglon fel lleithder a llwydni. Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord sicrhau bod cartrefi yn addas i bobl fyw ynddynt, sy'n cynnwys mynd i'r afael â materion a allai beri risg i iechyd a lles tenantiaid.

Er mwyn cryfhau atebolrwydd a thryloywder i denantiaid, mae Llywodraeth Cymru yn ymgorffori safonau perfformiad statudol o fewn Safon Ansawdd Tai Cymru 2023. Mae'r rheol newydd hon yn gosod amserlenni clir ar gyfer ymchwilio a gwella peryglon, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â lleithder a llwydni. Mae'r rheol hon yn dod i rym o 1 Ebrill 2026 ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol gyhoeddi amseroedd ymateb ac adrodd ar eu perfformiad fel rhan o ffurflen gydymffurfio SATC

Fel y nodwyd yn fy natganiad ym mis Rhagfyr 2025, mae'r gwaith hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i sicrhau fod pob tenant yng Nghymru yn byw mewn cartrefi diogel ac iach.

Datganiad Ysgrifenedig: Safon Ansawdd Tai Cymru – Ymateb i Beryglon (19 Rhagfyr 2025) | LLYW.CYMRU