WQ98078 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/02/2026

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am ystyriaeth Llywodraeth Cymru o gynigion terfynol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer y polisi gorfodi a'r amserlen mae'n ei rhagweld ar gyfer gwneud penderfyniad ar gymeradwyo'r polisi?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 11/02/2026

Mae Polisi Gorfodi diwygiedig y Comisiynydd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. Rwy’n bwriadu ymateb i gais y Comisiynydd am gymeradwyaeth i’r Polisi yn unol ag Adran 108(4) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 cyn toriad y Senedd ym mis Mawrth.