WQ98024 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/01/2026

Faint o dai yng Nghymru sy’n aros am waith cywiro o ganlyniad i Consumer Energy Solutions gael ei roi mewn dwylo gweinyddwyr?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 28/01/2026

Drwy ein trafodaethau â’r cwmni rydyn ni wedi cael ar ddeall bod 103 o gartrefi nad oedd Consumer Energy Solutions wedi cwblhau’r broses gyfan ar eu cyfer. Mewn 53 o achosion mae’r gwaith wedi cael ei gwblhau ond mae angen ei gofrestru er mwyn i’r warant fod yn ddilys a chael ei chydnabod gan  City Energy Network. Nid yw'r gwaith gosod wedi cael ei gwblhau ar gyfer y 50 arall ac mae angen gwneud hynny.

Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad â’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net ac Ofgem i sicrhau bod aelwydydd yr effeithiwyd arnyn nhw gan gau ECO yn derbyn cynhyrchion ôl-osod o ansawdd uchel, gan gynnwys y rhai nad yw’r gosodwyr gwreiddiol bellach yn marchnata.