WQ97973 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/01/2026

Pa wybodaeth sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet am ganolfannau iechyd newydd sy’n cael eu cynllunio ar gyfer Penygroes, Waunfawr a Bangor yn etholaeth Arfon, gan gynnwys unrhyw wybodaeth sydd wedi ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 16/01/2026

Mae’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddatblygu canolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn cael ei gyflawni drwy’r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso (IRCF).

Canolfan Gofal Sylfaenol Waunfawr – Rhoddwyd cyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ym mis Ionawr 2025 i ddatblygu achos cyfiawnhad busnes ar gyfer Canolfan Gofal Sylfaenol Waunfawr. Disgwyliwn y bydd hwn yn cael ei gyflwyno ym mis Awst.

Canolfan Lleu, Penygroes – Rhoddwyd cyllid i Grŵp Cynefin ym mis Mawrth 2023 i ddatblygu achos busnes amlinellol i gynllunio ac adeiladu canolfan lesiant. Mae’r cynnig wedi bod drwy sawl iteriad a sawl partner. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i gysylltu â Chyngor Gwynedd a Grŵp Cynefin i ddatblygu cynllun llai ym Mhenygroes. Rydym yn aros i’r cais ddod i law.

Canolfan Iechyd a Llesiant Bangor - Cafwyd cais Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso ar gyfer ffioedd tuag at ddatblygu’r achos busnes ym mis Mawrth 2025, fodd bynnag gofynnodd Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am waith pellach i alluogi i’r achos busnes symud ymlaen i’r cam nesaf. Trefnodd fy swyddogion ymweliad â chynllun Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso tebyg yng Ngorllewin Cymru ar gyfer cydweithwyr o’r bwrdd iechyd a’r cyngor i gefnogi datblygiad Canolfan Iechyd a Llesiant Bangor.

Mae’r achos amlinellol strategol yn cael ei adolygu gan Gyngor Gwynedd i gytuno ar y camau nesaf gyda’r bwrdd iechyd.