Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i ehangu meini prawf gwasanaeth cymorth seicolegol Onnen yng Nghaerdydd i rieni mewn profedigaeth sydd wedi profi a) camesgoriadau yn y trimester cyntaf a dechrau'r ail drimester, b) marwolaeth sydyn ac anesboniadwy mewn babanod, ac c) colled dros flwyddyn yn ôl?
I'w ateb gan: Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol