A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a) beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i amddiffyn y gweithlu mewn lleoliadau clinigol rheng flaen rhag achosion o ffliw eleni, a b) p'un a yw staff mewn meddygfeydd a fferyllfeydd yn gymwys i gael brechlyn ffliw y GIG?
I'w ateb gan: Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol