Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ymdrechion datblygu cymunedol llawr gwlad, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu'n llwyr ar wirfoddolwyr?
Gweler yr ymateb i WQ97906 i gael manylion ynghylch cyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi gwirfoddoli yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi grwpiau cymunedol llawr gwlad a'u hymdrechion datblygu drwy gyllido Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Mae’r rhwydwaith hwn yn darparu gwasanaethau pwysig a gwerthfawr i'r sefydliadau gwirfoddol a’r grwpiau lleol o bob maint a lefel o ffurfioldeb sy'n gweithio gyda chymunedau a phobl ledled Cymru[MG1] . Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod y sefydliadau hanfodol hyn yn wynebu galw cynyddol am wasanaethau, pwysau ar incwm, costau cynyddol a heriau gyda recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr.
Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn gallu datblygu a chynnal eu rhaglenni gwirfoddoli drwy Brif Grant, Grant Strategol a Grant dan Arweiniad Ieuenctid Gwirfoddoli Cymru, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Maent yn cael eu cefnogi ymhellach yn lleol ac yn genedlaethol gan seilwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru (sy'n cynnwys CGGC a'r 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol) a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Drwy hyn darperir iddynt help a chyngor drwy eu rheolwyr a'u canolfannau gwirfoddoli lleol a thrwy borthol gwirfoddoli Cymru, Hwb Gwybodaeth a Rhwydweithiau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid craidd i Tempo i ddarparu rhaglen credydau amser Cymru gyfan sy'n caniatáu i grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol gydnabod a gwobrwyo eu gwirfoddolwyr, rhywbeth sy'n dod yn gynyddol bwysig a hwythau yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw gwirfoddolwyr.
Dros y 18 mis diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyd-ddylunio dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru gyda'r sector gwirfoddol, y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Nod y dull newydd hwn, a lansiwyd yn Gofod 3 ym mis Gorffennaf eleni, yw creu cyfleoedd gwirfoddoli diogel, cynaliadwy sy’n cael eu cefnogi rhwng nawr a 2050. Mae Llywodraeth Cymru a CGGC wedi ymrwymo i gyflawni camau cyntaf y dull newydd hwn. Gweinyddiaethau’r dyfodol fydd yn penderfynu sut y pennir adnoddau ar gyfer y gwaith hwn a sut bydd yn cael ei ddatblygu.
Gweithiwn yn agos hefyd â'n partneriaid yn y trydydd sector i wella'r amgylchedd y maent yn gweithredu ynddo, drwy gyd-ddatblygu Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu wedi’i ddiweddaru. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws iddynt chwarae eu rôl hanfodol, yn enwedig ym meysydd atal, sydd mor allweddol i fynd i'r afael â’r materion sy’n codi yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
Gwyddom fod cymunedau a chanddynt sylfaen dda o asedau cymunedol yn fwy gwydn na'r rhai heb hynny. Mae cymunedau sydd eisoes yn meddu ar sefydliadau angori a chanddynt gysylltiadau cryf yn eu cymuned ac mewn cyrff sector cyhoeddus yn ei chael yn haws manteisio ar ffrydiau cyllido a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Maent yn galluogi integreiddio gwasanaethau a chynnwys partneriaid eraill fel y gellir cyd-ddylunio gwasanaethau. Mae cyfleusterau cymunedol yn darparu ffocws ar gyfer gweithredu cymunedol a gwella cydlyniant cymunedol, gan ddarparu mynediad lleol at wasanaethau. Mae ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol (gyda chyllideb o £10 miliwn) yn darparu cefnogaeth i'r asedau cymunedol hanfodol hyn sy'n hanfodol i ymdrechion datblygu cymunedol llawr gwlad.