Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi grwpiau cymunedol mwy anffurfiol sydd yn dibynnu'n llwyr ar wirfoddolwyr?
Gweler yr ymateb i WQ97906 i gael manylion ynghylch cyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi gwirfoddoli yng Nghymru.
Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cymorth pwysig a gwerthfawr i'r sefydliadau gwirfoddol a’r grwpiau lleol o bob maint a lefel o ffurfioldeb sy'n gweithio gyda’r cymunedau a’r bobl sydd fwyaf mewn angen ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod y sefydliadau hyn yn wynebu galw cynyddol am wasanaethau, pwysau ar incwm, costau cynyddol a heriau gyda recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr.
Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn gallu datblygu a chynnal eu rhaglenni gwirfoddoli drwy Brif Grant, Grant Strategol a Grant dan Arweiniad Ieuenctid Gwirfoddoli Cymru, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Maent yn cael eu cefnogi ymhellach yn lleol ac yn genedlaethol gan seilwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru (sy'n cynnwys CGGC a'r 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol) a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Drwy hyn darperir iddynt help a chyngor drwy eu rheolwyr a'u canolfannau gwirfoddoli lleol a thrwy borthol gwirfoddoli Cymru, Hwb Gwybodaeth a Rhwydweithiau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid craidd i Tempo i ddarparu rhaglen credydau amser Cymru gyfan sy'n caniatáu i grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol gydnabod a gwobrwyo eu gwirfoddolwyr, rhywbeth sy'n dod yn gynyddol bwysig a hwythau yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw gwirfoddolwyr.
Dros y 18 mis diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyd-ddylunio dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru gyda'r sector gwirfoddol, y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Nod y dull newydd hwn, a lansiwyd yn Gofod 3 ym mis Gorffennaf eleni, yw creu cyfleoedd gwirfoddoli diogel, cynaliadwy sy’n cael eu cefnogi rhwng nawr a 2050. Mae Llywodraeth Cymru a CGGC wedi ymrwymo i gyflawni camau cyntaf y dull newydd hwn. Gweinyddiaethau’r dyfodol fydd yn penderfynu sut y pennir adnoddau ar gyfer y gwaith hwn a sut bydd yn cael ei ddatblygu.
Gweithiwn yn agos hefyd â'n partneriaid yn y trydydd sector i wella'r amgylchedd y maent yn gweithredu ynddo, drwy gyd-ddatblygu Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu wedi’i ddiweddaru. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws iddynt chwarae eu rôl hanfodol, yn enwedig ym meysydd atal, sydd mor allweddol i fynd i'r afael â’r materion sy’n codi yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.