Beth sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â sefyllfa ariannol gynyddol ansicr grwpiau gwirfoddol a chymunedol ac i sicrhau cydnerthedd ariannol i'r sector yng Nghymru?
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol llawr gwlad drwy gyllid seilwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru gwerth £8.6 miliwn. Mae'r cyllid hwn yn cefnogi sefydliadau a mentrau drwy roi cyllid, a chynnal trefniadau gwirfoddoli a llywodraethu da, sydd yn eu tro yn helpu i gryfhau gwydnwch cymunedol a chefnogi ardaloedd difreintiedig ledled Cymru.
Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn cynnig gwasanaethau pwysig a gwerthfawr i'r mudiadau gwirfoddol sy'n gweithio ar y cyd â'r cymunedau a'r bobl sydd fwyaf angen cymorth ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod y sefydliadau hanfodol hyn yn wynebu galw cynyddol am wasanaethau, pwysau ar incwm, costau cynyddol a heriau mewn perthynas â recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi cyllid craidd i Sefydliad Cymunedol Cymru i'w helpu i ddod o hyd i roddion dyngarol a gweinyddu a dosbarthu'r cymorth ariannol mewn ffordd sy'n cydweddu â'n blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael ag amddifadedd, cryfhau gwydnwch cymunedol, a hyrwyddo twf cynaliadwy yn y sector gwirfoddol. Ers 1999 maent wedi dyfarnu mwy na £40 miliwn i gefnogi prosiectau ac elusennau llawr gwlad ledled Cymru.
Rydym hefyd yn gweithio'n agos â'n partneriaid yn y trydydd sector i wella'r amgylchedd y maent yn gweithredu ynddo drwy gyd-ddatblygu Cod Ymarfer diwygiedig ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector a Dull Newydd ar gyfer Gwirfoddoli. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws iddynt chwarae eu rôl hanfodol, yn enwedig o ran defnyddio dulliau ataliol, sydd mor allweddol i fynd i'r afael â’r materion sy’n codi yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig.
Ers 2022 rydym wedi cael polisi ariannu ar gyfer tymor hwy, mewn ymateb i bryderon gan y trydydd sector bod y grantiau'n cael eu cynnig ar sail blwyddyn. Mae Cabinet Llywodraeth Cymru wedi ailgadarnhau'r polisi hwnnw yn 2025.
Mae'r holl gyllid a ddarperir i'r trydydd sector o'r cymorth i'r sector gwirfoddol a'r gyllideb gwirfoddoli wedi'i drefnu o dan gytundebau cyllido tair blynedd. Cyhoeddwyd y Cod Ymarfer diwygiedig ar gyfer Ariannu'r Trydydd Sector ym mis Ebrill 2025, ac mae hwnnw'n gwneud yr achos dros fwy o ddefnydd o gyllid tymor hwy, pan fo hynny’n briodol.
Rydym yn glir bod cyllid tymor hwy yn sicrhau manteision sylweddol i bawb dan sylw. Mae'n darparu sicrwydd ariannol a sicrwydd o ran cyflogaeth, yn caniatáu cynllunio gwell ac yn lleihau beichiau gweinyddol. Mae hefyd yn gwella'r gwasanaethau a ddarperir trwy helpu mewn perthynas â recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr profiadol.
Er mwyn sicrhau bod gennym ddarlun mor gyflawn â phosibl, gan weithio â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Phrifysgol Nottingham Trent, rydym wedi datblygu a lansio baromedr trydydd sector. Bydd hwn yn cynnig cyfres o bwyntiau data a fydd yn rhoi gwybodaeth bellach am iechyd a chynaliadwyedd y trydydd sector yng Nghymru. Bydd hyn hefyd, dros amser, yn caniatáu inni olrhain effaith penderfyniadau polisi ar gynaliadwyedd y sector.