WQ97907 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/12/2025

Pa ystyriaeth a roddwyd gan Llywodraeth Cymru i sefydlu mecanwaith sydd wedi'i ariannu'n dda, sy'n sefydlog, yn glir ac yn gwbl hygyrch ar gyfer cefnogi a thyfu gwirfoddoli yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 23/12/2025

Gweler yr ymateb i WQ97906 i gael manylion ynghylch cyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi gwirfoddoli yng Nghymru.  

Dros y 18 mis diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyd-ddylunio dull newydd o wirfoddoli yng Nghymru gyda'r sector gwirfoddol, y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Nod y dull newydd hwn, a lansiwyd yn Gofod 3 ym mis Gorffennaf eleni, yw creu cyfleoedd gwirfoddoli diogel, cynaliadwy sy’n cael eu cefnogi rhwng nawr a 2050. Mae Llywodraeth Cymru a CGGC wedi ymrwymo i gyflawni camau cyntaf y dull newydd hwn.