WQ97906 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/12/2025

Pa gamau y mae Llywoddraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau ei bod yn rhoi cefnogaeth ddigonol i wirfoddoli, a bod digon o gyllid ar gael i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i ddatblygu a chynnal eu rhaglenni gwirfoddoli?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 23/12/2025

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ar gyfer mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i hyrwyddo a gwella cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru drwy dri grant gan Gwirfoddoli Cymru a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

  • Nod Prif Grant Gwirfoddoli Cymru yw cynyddu gweithgarwch gwirfoddol drwy gael gwared â’r rhwystrau i wirfoddoli a hyrwyddo newidiadau mewn sefydliadau sy’n fuddiolwyr er mwyn gwneud gwirfoddoli yn rhan o’u harferion gwaith. Mae cyllid o hyd at £30,000 y flwyddyn ar gael i brosiectau am hyd at ddwy flynedd.
  • Mae cynllun Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru yn cyllido nifer fach o fuddsoddiadau strategol i ddatgloi potensial strategol gwirfoddoli yn y tymor hir.
  • Mae Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid yn cyllido prosiectau sy’n rhoi platfform i bobl ifanc wneud penderfyniadau. Caiff y gronfa hon ei dosbarthu i 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol Cymru, a gwneir y penderfyniadau gan banel grantiau o bobl ifanc.

Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru – partneriaeth rhwng Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r un deg naw o gynghorau gwirfoddol sirol ledled Cymru – yn cynnig cymorth a chyngor i’r miloedd lawer o gyrff trydydd sector yng Nghymru. Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn cynnig cymorth o dan bedwar piler cyllid cynaliadwy, gwirfoddoli, llywodraethiant da, ac ymgysylltu a dylanwadu. Mae hyn yn cynnwys cymorth i sefydliadau mewn perthynas â sefydlu mesurau diogelu priodol i gadw plant ac oedolion sy’n agored i niwed yn ddiogel; rhaglenni grant Gwirfoddoli Cymru; platfformau digidol Gwirfoddoli Cymru, Cyllido Cymru a’r Hwb Gwybodaeth. Mae’r cyllid hwn hefyd yn cefnogi rhaglen Newid i ddatblygu capasiti a sgiliau digidol yn y sector, a’r rhaglen credydau amser genedlaethol. Mae’r gyllideb hefyd yn gwneud cyfraniad bach at gostau craidd Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid craidd i Tempo i ddarparu rhaglen credydau amser ar gyfer Cymru gyfan, sy’n caniatáu i grwpiau cymunedol a chyrff gwirfoddol gydnabod a gwobrwyo eu gwirfoddolwyr, rhywbeth sydd o bwys cynyddol wrth iddynt ei chael yn anodd recriwtio a dal gafael ar wirfoddolwyr.