Pam mae Cynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru, a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ar gau i geisiadau a pha gyllid arall sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwirfoddoli?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
| Wedi'i ateb ar 23/12/2025
Mae Prif Gynllun Grant Gwirfoddoli Cymru yn cael ei gynnal drwy gylchoedd cyllido yn hytrach na rhaglen dreigl. Bydd y cylch diweddaraf o geisiadau yn mynd i'r panel ym mis Ionawr, a bydd cylch nesaf y grant yn agor i geisiadau ym mis Hydref 2026.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i hyrwyddo a gwella gwirfoddoli yng Nghymru drwy dri o Grantiau Gwirfoddoli Cymru a weinyddir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru. Dyma’r tri gant:
- Nod Prif Grant Gwirfoddoli Cymru yw cynyddu ymgysylltiad gwirfoddolwyr drwy gael gwared ar rwystrau i wirfoddoli a hyrwyddo newidiadau mewn sefydliadau buddiolwyr i ymgorffori gwirfoddoli yn eu harferion gwaith. Mae cyllid ar gael ar gyfer prosiectau am gyfnod hyd at ddwy flynedd ac ar gyfer hyd at £30k y flwyddyn.
- Mae cynllun Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru yn ariannu nifer fach o fuddsoddiadau strategol i ryddhau potensial strategol gwirfoddoli dros gyfnod hir.
- Mae Grantiau dan Arweiniad Ieuenctid yn ariannu prosiectau sy'n rhoi llwyfan i bobl ifanc ddod yn benderfynwyr. Mae'r cyllid hwn wedi'i ddosbarthu i'r 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol ledled Cymru, a chaiff y gwaith hwnnw ei benderfynu gan banel o bobl ifanc.