WQ97792 (w) Wedi’i gyflwyno ar 26/11/2025

A fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymateb i'r 49 o gamau gweithredu awgrymedig a amlinellwyd yn adroddiad terfynol yr Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025, ac os felly?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg | Wedi'i ateb ar 04/12/2025

Roedd adroddiad yr Uwchgynhadledd Ymddygiad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf yn nodi 47 o gamau gweithredu: canolbwyntiodd 25 ohonynt ar weithredu camau mewn ysgolion a 22 ohonynt ar roi cymorth i ddarparwyr addysg bellach. Er eu bod wedi'u grwpio yn ôl sector, mae cyfleoedd amlwg ar gyfer cydweithredu ar draws meysydd a chydgysylltu strategol yn bodoli. 

 

Mae sawl cam gweithredu sy'n canolbwyntio ar ysgolion yn cyd-fynd yn uniongyrchol â'r pum blaenoriaeth bennaf a gyhoeddwyd ar ôl yr Uwchgynhadledd, gan greu sylfaen glir ar gyfer gwneud cynnydd. Bydd cyflawni'r camau gweithredu mwy cymhleth yn gofyn am feithrin cysylltiadau cryf a sicrhau cydweithredu cyson â phartneriaid allweddol.

 

Roedd y Datganiad Llafar ar Bresenoldeb ac Ymddygiad mewn Ysgolion a gyflwynais yr wythnos diwethaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn dilyn yr Uwchgynhadledd. Rwy'n parhau i flaenoriaethu'r pum cam gweithredu pennaf, i gryfhau'r cymorth i wella ymddygiad mewn ysgolion gan gynnwys:

 

·       Creu strwythurau i gefnogi gweithio aml-asiantaethol

·       Diweddaru'r canllawiau i ysgolion

·       Sefydlu system ar gyfer rhannu arferion gorau

·       Datblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol ynghylch ymddygiad

·       Sicrhau bod diffiniadau cyson o ddigwyddiadau a'u bod yn cael eu cofnodi mewn ffordd gyson, ynghyd â set ddata glir ar lefel awdurdod lleol a Chymru.

 

Rydym yn datblygu ymateb polisi amlasiantaethol i fynd i'r afael ag ymddygiad a'i effeithiau ehangach, ac yn gweithio gyda phob un o'r pedwar Heddlu yng Nghymru i gryfhau'r cydweithredu rhwng ysgolion, awdurdodau lleol a'r heddlu drwy'r Rhaglen Ysgolion Bro.

 

Rydym yn diweddaru'r canllawiau yn gyflym i sicrhau eglurder a chysondeb ledled Cymru, ac mae fforymau rhanddeiliaid yn gweithio i adnewyddu polisïau ar wahardd a chadw disgyblion, ac ar ffonau symudol, gan gynnwys sicrhau cymorth newydd i ysgolion.

 

Rydym yn datblygu system gadarn i rannu arferion gorau rhwng ysgolion—yn lleol ac yn genedlaethol. Mae hyn yn adeiladu ar wersi gwerthfawr a ddysgwyd am ddulliau atal trais sy'n cael eu profi ar hyn o bryd. 

 

Er mwyn gwella dysgu proffesiynol, ar ddechrau'r tymor roeddem wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd ar ymddygiad sy'n cynnig adnodd cyfoethog o ymchwil ac arweiniad ymarferol i ysgolion. Bydd gwaith cydgysylltu ehangach ag ymarferwyr sy'n lansio'r tymor hwn, dan arweiniad partneriaid Sefydliadau Addysg Uwch, yn llywio cynnig ar gyfer rhaglen ddysgu proffesiynol strwythuredig, a fydd yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â Dysgu. 

 

Rydym yn gweithio i sicrhau diffiniadau cyson a ffyrdd cyson o adrodd ar ddigwyddiadau. Bydd hyn yn ein helpu i greu set ddata glir a dibynadwy ar lefel awdurdod lleol ac yn genedlaethol. Mae'r camau hyn wedi'u seilio ar ymrwymiad cryf i wrando, dysgu, a chyd-greu atebion gyda'r rhai hynny sydd fwyaf pwysig—ein hymarferwyr, ein dysgwyr a'n teuluoedd. 

 

Mae gwaith eisoes ar y gweill i arwain cydweithrediad ystyrlon, i ddatblygu atebion ymarferol ar y cyd. Yn ogystal â phrosiectau dan arweiniad sefydliadau addysg uwch ag ysgolion, mae ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a rhieni yn cael ei gefnogi'n weithredol drwy bartneriaethau allweddol â Senedd Ieuenctid Cymru, Plant yng Nghymru, y Comisiynydd Plant a Cyswllt Rhieni Cymru. 

 

Mae gennym fwy i'w wneud, ond rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid ar draws y sector, gan gynnwys yr undebau, yr awdurdodau lleol a'r gweithlu eu hunain i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Nid oes atebion cyflym, ond yn aml mae'r rhesymau dros ymddygiad gwael yn yr ysgol yn deillio o ffactorau allanol y tu allan i'r ysgol. Mae mynd i'r afael â'r materion ehangach hynny yn anodd ac mae'n golygu bod angen inni gynnwys y llywodraeth gyfan a'r sector cyhoeddus ehangach.

 

Byddaf yn cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn y gwanwyn i roi diweddariad arall ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni camau gweithredu'r Uwchgynhadledd, cyn diwedd Tymor y Senedd.