Ymhellach i WQ97682, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a fydd y gweithgor yn cyhoeddi adroddiad terfynol yn dilyn datblygu'r dull gweithredu?
Mae aelodaeth y gweithgor y cyfeiriais ato yn fy ymateb i WQ97682, yn cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru, arweinydd clinigol a rheolwr rhwydwaith y Rhwydwaith Iechyd Menywod, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ymarferwyr iechyd a fferyllfa gymunedol, ac aelodau Triniaeth Deg i Fenywod Cymru.
Mae’r gweithgor yn cefnogi cyflawni camau’r Cynllun Iechyd Menywod yn ymwneud â Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif. Mae’n nodi pwyntiau cyswllt posibl lle gellir gwneud y mwyaf o drafodaethau am iechyd menywod, fel y menopos, a chanfod cyfleoedd i rymuso menywod drwy addysg a gwybodaeth.
Bydd camau gweithredu’n cael eu hadrodd drwy’r cylch adrodd blynyddol ar gyfer y Cynllun Iechyd Menywod.