Ymhellach i’r ateb i WQ97258, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau faint o unigolion sy’n derbyn eu gofal gan gwmnïau cyfyngedig?
Nid yw Arolygiaeth Gofal Cymru yn cadw data byw yn ymwneud â nifer yr unigolion sy’n cael gofal gan gwmnïau cyfyngedig. Fodd bynnag, mae gwybodaeth ar gael am nifer y gwasanaethau cofrestredig sy’n cael eu darparu gan gwmnïau cyfyngedig, ac uchafswm nifer y lleoedd y gall y gwasanaethau cartref gofal hynny eu darparu. Mae’r wybodaeth hon isod.
Gwasanaethau a gofrestrwyd gan AGC
|
|
|
Gwasanaethau sy’n Gwmnïau Cyfyngedig |
|
Gwasanaethau Cymorth Cartref |
|
655 |
|
Gwasanaethau Lleoli Oedolion |
|
0 |
|
Gwasanaethau Cartref Gofal (Oedolion) |
|
818 |
|
Gwasanaethau Cartref Gofal (Cartrefi Plant) |
|
276 |
|
Gwasanaethau Cartref Gofal (Oedolion a Phlant) |
|
16 |
Lleoedd wedi’u cofrestru (wedi’u darparu gan wasanaethau a gofrestrwyd gan AGC)
|
|
|
Lleoedd sy’n cael eu darparu gan wasanaethau sy’n Gwmnïau Cyfyngedig |
|
Darparwyd gan Wasanaethau Cartref Gofal (Oedolion) |
|
20,485 |
|
Gwasanaethau Cartref Gofal (Cartrefi Plant) |
|
961 |
|
Gwasanaethau Cartref Gofal (Oedolion a Phlant) |
|
148 |
Gall data mwy penodol fod ar gael yn lleol.