A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau os yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut y gellir rhyddhau’r arian sydd mewn cyfrif esgrow yn Jersey y cyfeiriais ato yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mehefin 2023?
Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 01/12/2025
Cytunwyd ar y trefniadau hyn cyn preifateiddio. Rwy’n deall eu bod yn gymhleth iawn ac yn ganlyniad contractau hanesyddol rhwng yr awdurdodau dŵr a fodolai cyn dyddiau Hafren Trent a Dŵr Cymru fel cwmnïau preifat. O’r herwydd, ni fyddai’n briodol i Lywodraeth Cymru gynnig sylw ar y trefniadau hyn.