WQ97752 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a all Gweinidogion Cymru wneud safonau’r Gymraeg yn benodol gymwys i Wasanaeth Carchardai a Phrawf ei Fawrhydi heb ganiatâd yr Ysgrifennydd Gwladol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 01/12/2025

Mae adran 39 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ('y Mesur') yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n pennu safonau'r Gymraeg sy’n benodol gymwys i gorff. Fodd bynnag, mae adran 43 o'r Mesur yn darparu'n benodol na chaiff rheoliadau a wneir o dan adran 39 ddarparu i safon fod yn benodol gymwys i unrhyw un o Weinidogion y Goron oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i'r ddarpariaeth honno.

 

O ystyried swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (‘HMPPS') (drwy Ddeddf Carchardai 1952 ymhlith eraill), byddai angen cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol pe bai Gweinidogion Cymru yn paratoi safonau’r Gymraeg sy'n benodol gymwys i HMPPS.