Pa brosesau sydd mewn lle rhwng Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder er mwyn sicrhau bod y rheolau trefniadaeth sifil, y protocolau cyn gweithredu a’r cyfarwyddiadau ymarfer yn gyfredol ac yn gywir o ran swyddogaethau a therminoleg datganoledig?
Nid oes gweithdrefnau na phrosesau penodol ar y materion hyn ar waith rhwng Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Fodd bynnag, rydym yn codi materion yn ôl yr angen gyda'r person priodol. Er enghraifft, mae’r ymgynghoriad sydd ar y gweill gan y Pwyllgor Rheolau Trefniadaeth Sifil ar faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg yn y Rheolau Trefniadaeth Sifil a'r Cyfarwyddyd Ymarfer cysylltiedig yn cael ei gynnal yn dilyn ein hymgysylltiad â swyddfa'r Arglwydd/Arglwyddes Brif Ustus blaenorol a phresennol ar oblygiadau achos Driver, a oedd yn ymwneud â materion penodol ynghylch dehongli'r Gymraeg.