Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi gwneud o a) sawl fargyfreithwr sydd wedi’u lleoli mewn siambrau yng Nghymru a gafodd eu gwneud yn Gwnsleriaid y Brenin yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, a b) o unrhyw rwystrau penodol sy'n ei gwneud yn anoddach i fargyfreithwyr Cymreig gael eu penodi'n Gwnsleriaid y Brenin?
O ran cwestiwn (a), nid yw'r wybodaeth y gofynnir amdani wedi'i chyhoeddi ar y ffurf hon ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud yr asesiad penodol hwn.
O ran cwestiwn (b), nid ydym yn ymwybodol o rwystrau sy'n unigryw i fargyfreithwyr o Gymru sy'n ymgeisio am statws Cwnsler y Brenin. Fodd bynnag, gall pob bargyfreithiwr, ac yn wir pob cyfreithiwr, o gefndiroedd anhraddodiadol wynebu heriau megis gofynion heriol o ran profiad, cyfleoedd cyfyngedig y tu allan i Lundain, cyfyngiadau ariannol, llai o gysylltiadau rhwydweithio, a llwybrau gyrfa aneglur.