WQ97749 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2025

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol restru’r holl bwerau ychwanegol sydd wedi’u trosglwyddo i a) y Senedd a b) Gweinidogion Cymru ers i Lywodraeth bresennol y DU ddod i rym ym mis Gorffennaf 2024?

Wedi'i ateb gan Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni | Wedi'i ateb ar 27/11/2025

Ni wnaed unrhyw Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 58 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i drosglwyddo unrhyw swyddogaeth sydd gan un o Weinidogion y Goron i Weinidogion Cymru ers i Lywodraeth bresennol y DU ddod i rym. Nid oes ychwaith wedi bod, yn ystod y cyfnod hwnnw, unrhyw Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 o'r Ddeddf honno i ddiwygio Atodlenni 7A neu 7B i'r Ddeddf honno, sy'n gwneud darpariaeth sy'n effeithio ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Dyma'r ddau fecanwaith ffurfiol y darperir ar eu cyfer yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau ac addasu cymhwysedd y Senedd.

 

Ar wahân i'r mecanweithiau hynny yn Neddf Llywodraeth Cymru, gall deddfwriaeth arall gan Senedd y DU drosglwyddo neu roi swyddogaethau i Weinidogion Cymru neu newid cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Mae fy swyddogion wedi nodi'r Deddfau canlynol gan Senedd y DU, a ddeddfwyd rhwng Llywodraeth bresennol y DU yn dod i rym ym mis Gorffennaf 2024 a 24 Tachwedd 2025, sydd wedi rhoi pwerau ychwanegol i Weinidogion Cymru neu wedi ehangu eu pwerau presennol.

 

Mae Deddf Dŵr (Mesurau Arbennig) 2025 (p. 5) yn rhoi ystod o bwerau newydd neu estynedig i Weinidogion Cymru. Er enghraifft, mae adran 3 yn diwygio Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 i roi pŵer cyfarwyddo newydd i Weinidogion Cymru mewn perthynas â chynlluniau lleihau digwyddiadau llygredd. Mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi amrywiol bwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau. Gwelir enghraifft o hyn yn adran 8 sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru bennu troseddau a gyflawnir gan gwmnïau dŵr y mae rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru osod cosbau ariannol penodedig mewn perthynas â hwy pan fo wedi'i fodloni bod ganddo'r pŵer i wneud hynny. Mae'r Ddeddf hefyd yn addasu ystod o bwerau presennol Gweinidogion Cymru, gan ehangu'r hyn y caniateir iddynt ei wneud. Gellir gweld hyn yn adran 12 o Ddeddf Dŵr (Mesurau Arbennig) 2025. Mae'r adran hon yn diwygio adrannau 86 ac 86ZA o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 i ganiatáu i Weinidogion Cymru benodi personau i weithredu ar eu rhan mewn perthynas â threfniadau ar gyfer asesu a sicrhau cydymffurfiaeth, ac ymateb i fethiannau i gydymffurfio, â chyfarwyddiadau (neu unrhyw gyfarwyddyd penodol) o dan adran 208 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 ac ar y cyd â'r ddarpariaeth adennill costau gyfatebol mewn cysylltiad â'r swyddogaethau hynny.

 

Mae adran 5(1) o Ddeddf Great British Energy 2025 (p. 16) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol baratoi datganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer Great British Energy. Mae adran 5(6) o'r Ddeddf yn rhoi darpariaeth gydsyniad i Weinidogion Cymru lle na chaiff yr Ysgrifennydd Gwladol, heb gydsyniad Gweinidogion Cymru, gynnwys mewn datganiad o dan adran 5 unrhyw beth sy'n ymwneud â mater, y byddai darpariaeth amdano o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru, pe bai wedi'i chynnwys mewn Deddf gan y Senedd.

 

Mae Deddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025 (p. 18) yn diwygio Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Mae'r diwygiadau a wneir gan adran 56 yn rhoi amrywiol bwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ynghylch y Gofrestr Asedau Tanddaearol Genedlaethol, gyda'r gofyniad i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru ar gyfer unrhyw ddarpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

 

Mae'r diwygiadau a wneir gan adran 57 yn ymwneud â dyletswyddau mewn perthynas â chofnodi a rhannu gwybodaeth am gyfarpar. Maent yn rhoi pwerau cydredol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas â chyfarpar ar strydoedd yng Nghymru. Maent hefyd yn gwneud pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau (y rhai cydredol a'r rhai nad ydynt yn gydredol) yn ddarostyngedig i gydsyniad Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth sy'n ymwneud â chyfarpar ar strydoedd yng Nghymru. Y swyddogaethau cydredol yw'r rheswm dros restru adran 79 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 ym mharagraff 11(6)(b) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fel eithriad i'r cyfyngiad ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ynghylch dileu neu addasu swyddogaeth un o Weinidogion y Goron sy'n ymwneud â swyddogaeth ddatganoledig amodol.

 

Mae adran 123 o Ddeddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025 yn diwygio darpariaethau sy'n ymwneud â phŵer presennol i wneud rheoliadau yn adran 35 o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 sy'n arferadwy gan Weinidogion Cymru sy'n ymwneud â rhannu data rhwng personau penodedig at ddibenion amcan penodedig, sydd â'r diben o wella'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i unigolion ac aelwydydd. Mae'r diwygiad yn galluogi'r pŵer hwn hefyd i bennu amcan sydd â'r diben o wella'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i fusnesau.

Mae adran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg 2025 (p. 20) yn rhoi'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ar gyfer cynhyrchion. Mae adran 10(2) o'r Ddeddf yn rhoi darpariaeth gydsyniad i Weinidogion Cymru sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gydsynio i reoliadau o dan adran 1 sy'n cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig Cymru oni bai bod y ddarpariaeth ddim ond yn ddeilliadol i ddarpariaeth y tu allan i gymhwysedd datganoledig Cymru, neu'n ganlyniadol arni. Dyma'r rheswm dros restru'r Ddeddf hon ym mharagraff 9 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fel eithriad i'r cyfyngiad ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ynghylch dileu swyddogaeth sydd i'w harfer yn benodol mewn perthynas ag un o Weinidogion y Goron.

 

Mae Deddf Hawliau Rhentwyr 2025 (p. 26) yn rhoi pwerau amrywiol i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth. Mae Pennod 4 o Ran 1, adrannau 43 a 44 yn rhoi pwerau i wneud rheoliadau i bennu pethau nad ydynt yn drosedd o dan adrannau newydd 8A(1) neu 8B(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) 2019 (gwahardd gwahaniaethu yn ymwneud â phlant neu statws o ran budd-daliadau). Mae adran 47 yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau ynghylch arferion rhentu gwahaniaethol. Mae'r ddau bŵer hyn i wneud rheoliadau wedi'u cyfyngu i wneud darpariaeth a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Mae gan Weinidogion Cymru hefyd bŵer i wneud darpariaeth sy'n ganlyniadol ar Ran 1, ar yr amod y byddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, pŵer i ddod â Phennod 4 o Ran 1 i rym a phŵer i wneud darpariaeth drosiannol neu arbed mewn cysylltiad â dod â'r darpariaethau hynny i rym (adrannau 141, 145 a 148).

 

Rhoddodd Deddf Pleidleisio Absennol (Etholiadau yng Nghymru a'r Alban) 2025 (p. 27) bwerau cydredol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i alluogi ceisiadau am bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau datganoledig i gael eu gwneud ar-lein drwy Wasanaeth Digidol y DU. Mae pwerau Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig i gydsyniad un o Weinidogion y Goron. Yn ogystal, diwygiodd y Ddeddf hefyd bŵer presennol Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 sy'n ymwneud â swyddogion cofrestru etholiadol a'r hyn y gallant ei wneud i gyflawni eu dyletswyddau cofrestru.