WQ97735 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau faint o'r 2,300 o gartrefi a adeiladwyd drwy gefnogaeth Banc Datblygu Cymru, fel y nodwyd yn y Datganiad Ysgrifenedig ar 18 Tachwedd 2025, oedd yn gartrefi cymdeithasol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai | Wedi'i ateb ar 01/12/2025

Darperir tai cymdeithasol yn bennaf trwy ein Grant Tai Cymdeithasol.

Prif bwrpas Cronfa Eiddo Preswyl Cymru (y mae’r Datganiad Ysgrifenedig yn cyfeirio ati) yw helpu i ddarparu tai sector preifat, yn bennaf trwy BBaChau.

Fodd bynnag, roedd 340 o’r 2,300 o gartrefi y cyfeiriwyd atynt yn y datganiad wedi’u diffinio fel tai fforddiadwy a hefyd, mae nifer o gynlluniau y mae Banc Datblygu Cymru (BDC) wedi neilltuo cyllid iddynt, wedi’u prynu naill ai’n llwyr neu’n rhannol gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Nid yw BDC yn cofnodi’r ystadegau penodol hyn.

Yn unol ag argymhelliad y Tasglu Tai Fforddiadwy, mae BDC wrthi’n gweithio gyda fy swyddogion i ystyried cyfleoedd eraill i gynyddu ei ymwneud â darparu tai cymdeithasol.