WQ97682 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cwestiynau sy'n gysylltiedig â'r menopos i wiriadau iechyd arferol y GIG yng Nghymru, yn dilyn y cyhoeddiad y bydd y rhai yn Lloegr yn cynnwys cwestiynau am y menopos o 2026 ymlaen?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant | Wedi'i ateb ar 19/11/2025

Mae'r Cynllun Iechyd Menywod yn nodi sut y bydd y Gwasanaeth Iechyd yn Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif. Bydd clinigwyr yn cael eu hannog i ofyn i fenywod am eu hiechyd mislif a’r menopos yn ystod apwyntiadau presennol. Mae gweithgor wedi'i sefydlu i ddatblygu'r dull gweithredu hwn ymhellach.

Mae'r menopos yn faes blaenoriaeth ar gyfer yr Hybiau Iechyd Menywod a fydd yn cael eu sefydlu ym mhob ardal bwrdd iechyd erbyn diwedd mis Mawrth 2026.