WQ97675 (e) Wedi’i gyflwyno ar 05/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau na fydd unrhyw ganolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yn cau nes y bydd cerbydau ffyrdd ychwanegol ar gael ar gyfer canolbarth Cymru, fel y cytunwyd gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru yn dilyn eu penderfyniad i gau canolfannau ambiwlans awyr yn y Trallwng a Chaernarfon yn barhaol?

I'w ateb gan: Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol