A yw trefniadau brechu oedolion bregus sydd yn gaeth i’w cartrefi wedi newid ar gyfer y gaeaf hwn, ac os felly, pam?
Mae byrddau iechyd yn gallu darparu brechiadau wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion penodol eu poblogaeth leol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw drefniadau i ddanfon brechiadau i oedolion bregus sy’n gaeth i’w cartrefi.
Ein nod yw gwella’r gyfradd sy’n manteisio ar frechiadau, diogelu iechyd ein poblogaeth a helpu i atal salwch difrifol. Mae Cylchlythyrau Iechyd Cymru yn nodi'r disgwyliad i fyrddau iechyd wella’u trefniadau lleol fel bod brechiadau, gan gynnwys rhai ar gyfer oedolion bregus sy’n gaeth i’w cartrefi, mor hygyrch â phosibl; bod baich cleifion yn cael ei leihau a rhwystrau’n cael eu dileu. Mae hyn yn sicrhau bod pawb, gan gynnwys oedolion bregus, yn cael cyfle teg a a chyfartal i elwa ar frechiadau.