WQ97600 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/10/2025

Beth yw trefniadau brechu oedolion bregus sydd yn gaeth i’w cartrefi y gaeaf hwn?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 04/11/2025

Mae byrddau iechyd yn gallu darparu brechiadau wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion penodol eu poblogaeth leol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw drefniadau i ddanfon brechiadau i oedolion bregus sy’n gaeth i’w cartrefi.

Ein nod yw gwella’r gyfradd sy’n manteisio ar frechiadau, diogelu iechyd ein poblogaeth a helpu i atal salwch difrifol. Mae Cylchlythyrau Iechyd Cymru yn nodi'r disgwyliad i fyrddau iechyd wella’u trefniadau lleol fel bod brechiadau, gan gynnwys rhai ar gyfer oedolion bregus sy’n gaeth i’w cartrefi, mor hygyrch â phosibl; bod baich cleifion yn cael ei leihau a rhwystrau’n cael eu dileu. Mae hyn yn sicrhau bod pawb, gan gynnwys oedolion bregus, yn cael cyfle teg a a chyfartal i elwa ar frechiadau.